Yn ystod cyfarfod y Pwyllgor ar 11 Hydref, gofynnodd y Pwyllgor am eglurder ar y dystiolaeth ysgrifenedig a ddarparwyd gan Tinopolis Cymru. Mae’r ymateb isod.

Gallai cytundebau caffael ei gwneud hi’n amod bod rhai swyddi yn rhai sydd yn agored i siaradwyr Cymraeg yn unig. Byddai hyn yn gallu gweithio fel canran o swyddi. Felly, os byddai cytundeb mewn ardal sydd yn un o ‘gadarnleoedd’ yr iaith Gymraeg (erbyn hyn wrth gwrs mae ‘cadarnleoedd’ y Gymraeg yn dirywio yn enbyd o ran yr iaith ac felly mae angen gweithredu ar frys) byddai canran uwch o’r swyddi yn orfodol Gymraeg nag mewn ardal llai Cymraeg. Ond byddai’n bwysig bod canran o bob swyddi caffael yn gofyn am rywfaint o Gymraeg.

Y pwynt pwysig o ran achub yr iaith Gymraeg yw bod angen gweithredu’n bositif. Mae angen i bobl ifanc weld hefyd bod gwerth go iawn i siarad yr iaith. Wrth gwrs, mae sawl astudiaeth wedi bod lle mae’n amlwg fod plant sy’n cael eu magu yn ddwyieithog yn datblygu ymenydd mewn ffordd wahanol sydd yn rhoi cyfleon gwell mewn bywyd ac yn eu gwarchod er engraifft yn erbyn peryglon dementia pan yn henach. Ond hefyd, mae angen i bobl ifanc weld bod y sgil yma o siarad yr iaith, yn sgil sydd a gwerth iddi fel pob sgil arall. Ni ellid dadlau nad yw hyn yn deg, oherwydd fel sgiliau eraill, mae modd i bawb ddysgu Cymraeg.